Harri II, brenin Ffrainc | |
---|---|
Ganwyd | 31 Mawrth 1519 Château de Saint-Germain-en-Laye |
Bu farw | 10 Gorffennaf 1559 Hôtel des Tournelles |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Ffrainc |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | brenin Ffrainc |
Tad | Ffransis I, brenin Ffrainc |
Mam | Claude o Ffrainc |
Priod | Catrin de Medici |
Partner | Diane de Poitiers, Filippa Duci, Janet Stewart, Nicole de Savigny |
Plant | Ffransis II, brenin Ffrainc, Elisabeth o Valois, Claude o Valois, Louis o Valois, Siarl IX, brenin Ffrainc, Harri III, brenin Ffrainc, Marguerite de Valois, Francis, Victoire o Valois, Joan o Valois, Henri D'angoulême, Henri de Saint-Rémi, Diane de France |
Llinach | House of Valois |
Gwobr/au | Urdd Sant Mihangel, Urdd y Gardas |
llofnod | |
Brenin Ffrainc o 1547 hyd 1559 oedd Harri II (Ffrangeg: Henri II) (31 Mawrth 1519 – 10 Gorffennaf 1559).
Cafodd ei eni yng nghastell Saint-Germain-en-Laye, Ffrainc, yn fab i Ffransis I, brenin Ffrainc a Claude de France. Yn ddyn ifanc syrthiodd mewn cariad â Diane de Poitiers, Duges Valentinois, a bu dan ei dylanwad am weddill ei oes. Ef oedd yr olaf i fod yn Ddug Llydaw heb fod yn Frenin Ffrainc (daeth yn Ddug Llydaw ar ôl marw ei frawd, ac yn frenin ar ôl marw ei dad).
Ar 28 Hydref 1533, priododd â Catrin de Medici (13 Ebrill 1519 – 5 Ionawr 1589).