Harri V, brenin Lloegr | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 16 Medi 1386 ![]() Castell Trefynwy ![]() |
Bu farw | 31 Awst 1422 ![]() Château de Vincennes ![]() |
Swydd | teyrn Lloegr, Arglwydd Iwerddon ![]() |
Tad | Harri IV, brenin Lloegr ![]() |
Mam | Mary de Bohun ![]() |
Priod | Catrin o Valois ![]() |
Plant | Harri VI, brenin Lloegr ![]() |
Llinach | Lancastriaid ![]() |
llofnod | |
![]() |
Harri V (9 Awst neu 16 Medi 1387 – 31 Awst 1422) oedd brenin Lloegr o 20 Mawrth 1413 hyd ei farwolaeth.
Ganwyd ef yn Nhrefynwy, yn fab i Harri, Dug Caerhirfryn, a'i wraig gyntaf, Mary de Bohun. Fel Tywysog Cymru, brwydrodd yn erbyn gwrthryfelwyr Owain Glyn Dŵr, gan dderbyn craith barhaol ar ei wyneb o saeth yn ystod brwydr Amwythig yn 1403.[1][2]
Mae Henry yn cael ei gofio’n arbennig am ennill brwydr Agincourt yn 1415.[3] Priododd Harri â Catrin o Valois (merch Siarl VI, brenin Ffrainc) ar 2 Mehefin 1421 yn Eglwys Sant Ioan yn Troyes.