Harriet Beecher Stowe | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Elizabeth Harriet Beecher ![]() 14 Mehefin 1811 ![]() Litchfield ![]() |
Bu farw | 1 Gorffennaf 1896 ![]() Hartford ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | nofelydd, bardd, awdur plant, awdur storiau byrion, llenor, diddymwr caethwasiaeth, awdur ysgrifau ![]() |
Adnabyddus am | Caban F'ewyrth Twm, A Key to Uncle Tom's Cabin, Dred: A Tale of the Great Dismal Swamp, Still, Still with Thee ![]() |
Arddull | tale ![]() |
Tad | Lyman Beecher ![]() |
Mam | Roxana Foote Beecher ![]() |
Priod | Calvin Ellis Stowe ![]() |
Plant | Charles Edward Stowe ![]() |
Llinach | Beecher family ![]() |
Gwobr/au | 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Oriel yr Anfarwolion Menywod Connecticut, Oriel yr Anfarwolion Ohio, Cyfres Americanwyr nodedig ![]() |
Gwefan | https://harrietbeecherstowecenter.org ![]() |
llofnod | |
![]() |
Nofelydd o'r Unol Daleithiau ac ymgyrchydd yn erbyn caethwasiaeth oedd Harriet Elizabeth Beecher Stowe (14 Mehefin 1811 – 1 Gorffennaf 1896). Mae'n fwyaf enwog fel awdur y nofel Uncle Tom's Cabin (1852).
Ganed hi yn Litchfield Connecticut, yn ferch i Lyman Beecher a Roxana Foote Beecher. Dywedir fod y teulu o dras Gymreig. Roedd ei thad yn bregethwr, a daeth ei brawd, Henry Ward Beecher, i amlygrwydd fel pregethwr yn ddiweddarch. Yn 1836 priododd Calvin Ellis Stowe, yntau'n weinidog, a symudasant i Brunswick, Maine. Cawsant saith o blant, ond bu farw pedwar ohonynt o flaen Harriet.
Dechreuodd ysgrifennu o ddifrif yn 1851, yn rhannol oherwydd ei hawydd i wneud rhywbeth i wrthwynebu caethwasiaeth, gyda chefnogaeth William Lloyd Garrison, golygydd The Liberator. Ymddangosodd ei gwaith yn y papur The National Era dan y teitl Uncle Tom's Cabin or Life Among the Lowly. Yn 1852 cyhoeddwyd y gwaith fel llyfr, a bu'n llwyddiant enfawr. Gwerthwyd 300,000 o gopiau yn yr Unol Daleithiau y flwyddyn gyntaf, ac erbyn 1854 roedd y llyfr wedi ei drosi i 60 o ieithoedd gwahanol.