Harrison Ford | |
---|---|
Ganwyd | 13 Gorffennaf 1942 Chicago |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, cynhyrchydd ffilm, actor llais, amgylcheddwr, gwaith y saer, hedfanwr |
Taldra | 185 centimetr |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Mudiad | Amgylcheddaeth |
Tad | Chris Ford |
Mam | Dorothy Ford |
Priod | Calista Flockhart, Melissa Mathison, Mary Marquardt |
Plant | Ben Ford, Willard Ford |
Gwobr/au | Neuadd Enwogion California, Gwobr am Gyfraniad Gydol Oes AFI, Gwobr Golden Globe Cecil B. DeMille, Y César Anrhydeddus, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Wright Brothers Memorial Trophy, 'Disney Legends' |
Actor o'r Unol Daleithiau yw Harrison Ford (ganwyd 13 Gorffennaf 1942). Mae Ford yn fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Han Solo yn y tair ffilm Star Wars wreiddiol yn ogystal â'r prif gymeriad yn y gyfres Indiana Jones o ffilmiau. Mae hefyd yn enwog am ei rôlau fel Rick Deckard yn Blade Runner, fel John Book yn Witness ac fel Jack Ryan yn Patriot Games a Clear and Present Danger. Mae ei yrfa o bedwar degawd hefyd yn cynnwys nifer o ffilmiau Hollywood llwyddiannus iawn, gan gynnwys Presumed Innocent, The Fugitive, Air Force One, a What Lies Beneath. Ar un cyfnod, roedd pob un o'r pum ffilm mwyaf poblogaidd erioed yn cynnwys un o'r cymeriadau roedd ef wedi actio, er i'w ran yn y ffilm E.T. the Extra-Terrestrial (fel prifathro Elliot) gael ei ddileu o'r golygiad terfynol.
Ym 1997, rhoddwyd Ford ar frig siart Empire o'r "100 Sêren Ffilm Mwyaf Erioed". Erbyn mis Gorffennaf 2008, roedd ffilmiau Ford wedi gwneud bron i $3.4 biliwn mewn sinemau yn yr Unol Daleithiau, tra bod ei ffilmiau wedi gwneud dros $6 biliwn yn fyd-eang.