Enghraifft o: | resin |
---|---|
Math | Canabis, meddyginiaeth |
Deunydd | trichomes |
Yn cynnwys | Tetrahydrocannabinol |
Cynnyrch | Cannabis sativa, Cannabis indica |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynnyrch canabis a wneir o chwarennau resin (hynny yw, blew neu trichomau) y planigyn wedi eu cywasgu neu eu puro yw hashish (neu hash). Mae'n cynnwys yr un cyfansoddion gweithredol (THC a channabinoidau eraill) â blagur neu ddail y planhigyn sydd heb gael eu trin, ond mewn crynodiadau uwch. Gall fod yn solid neu ar ffurf resin, yn ddibynol ar sut mae wedi cael ei ffurfio; fel arfer mae hashish wedi'i gywasgu'n solid tra bo hashish sydd wedi'i wneud drwy broses puro dŵr (neu bubble melt hash) yn debycach i bast o liw melyn, brown golau, coch neu ddu.
Mae hashish wedi cael ei ddefnyddio at ddibenion meddygol ac fel cyffur adloniadol ers o leiaf y 3g CC.[1] Caiff ei gynhesu mewn pibell o'r enw hwca (hookah), bong neu mewn anweddwr neu mewn joint wedi'i gymysgu gyda chanabis neu dybaco. Gellir hefyd ei gymysgu mewn bwyd neu mewn potel fragu.