Enghraifft o: | papur newydd ![]() |
---|---|
Daeth i ben | 1849 ![]() |
Iaith | Cymraeg ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1848 ![]() |
Newyddiadur Cymraeg oedd Haul Gomer, a gyhoeddwyd yn 1848 ar gyfer y Cymry yn America. Byr fu ei barhad, ond roedd yn un o'r cyhoeddiadau Cymraeg cynharaf yng ngogledd America (gweler hefyd Cymro America).
Daeth y rhifyn cyntaf allan yn 1848. Fe'i cychwynnwyd gan Evan E. Roberts ('Ieuan o Geredigion') yn Utica, Efrog Newydd. Ef oedd y cyhoeddwr a golygydd ond golygid yr adran barddoniaeth gan John Edwards ('Eos Glan Twrch'). Cyhoeddiad pythefnosol oedd Haul Gomer, a'i bris oedd doler y flwyddyn. Ni pharhaodd yn hwy na naw mis, a daeth i ben yn 1849 oherwydd ni ellid cael cysodwyr i'w weithio.[1]