![]() | |
Enghraifft o: | heddlu tiriogaethol ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1 Mai 1844 ![]() |
Lleoliad yr archif | Hong Kong Baptist University Library Special Collections & Archives ![]() |
Pennaeth y sefydliad | Commissioner of Police ![]() |
Rhiant sefydliad | Security Bureau ![]() |
Pencadlys | Hong Kong Police Headquarters ![]() |
Gwladwriaeth | Gweriniaeth Pobl Tsieina ![]() |
Gwefan | https://www.police.gov.hk/ ![]() |
![]() |
Heddlu sydd dan Fiwro Diogelwch Hong Cong yw Heddlu Hong Cong (Saesneg: Hong Kong Police Force, Tsieinëeg: 香港警務處). Sefydlwyd ar 1 Mai 1844. Derbynodd y Siarter Frenhinol gan y Frenhines Elisabeth II ym 1969 am waith y llu yn ystod terfysgoedd 1967, a newidiwyd yr enw i Heddlu Brenhinol Hong Cong. Yn dilyn trosglwyddiad sofraniaeth Hong Cong i Weriniaeth Pobl Tsieina, enw'r heddlu unwaith eto yw Heddlu Hong Cong.[1]
Comisiynydd yr Heddlu yn 2015 oedd Lo Wai Chung.[2] Gan gynnwys Heddlu Cynorthwyol Hong Cong a gweision sifil, mae gan yr heddlu weithlu o 40,000, ac felly Hong Cong sydd â'r gymhareb uchaf o ddinasyddion i heddweision yn y byd ond am un. Yn ogystal, mae gan Heddlu Morol Hong Cong 3,000 o swyddogion a 143 o gychod, y mwyaf sydd gan unrhyw heddlu sifil yn y byd.[3][4][5]