Egwyddor neu agwedd meddwl yw heddychiaeth sy'n gwrthod ac yn condemnio rhyfel a grym milwrol dan unrhyw amodau. Enw arall arni yw pasiffistiaeth. Mae rhywun sy'n credu mewn heddychiaeth yn heddychwr. Yn hytrach na rhyfela, cred yr heddychwr mai trafod a chyfslafaredd yw'r ffordd i ddatrys anghydfod ar bob lefel, boed hynny rhwng gwledydd neu unigolion.