Heinrich Harrer | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 6 Gorffennaf 1912 ![]() Hüttenberg ![]() |
Bu farw | 7 Ionawr 2006 ![]() Friesach ![]() |
Dinasyddiaeth | Awstria ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | fforiwr, ffotograffydd, dringwr mynyddoedd, Sgïwr Alpaidd, llenor, sgriptiwr, daearyddwr, golffiwr ![]() |
Adnabyddus am | Seven Years in Tibet ![]() |
Plaid Wleidyddol | Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol ![]() |
Gwobr/au | Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Addurniad Aur Mawr Styria, Gwobr Gwirionedd y Goleuni, Athro Berufstitel, Gwobr Awstria am Gelf a Gwyddoniaeth ![]() |
Gwefan | http://www.harrerportfolio.com/ ![]() |
Chwaraeon |
Mynyddwr, fforiwr ac awdur o Awstria oedd Heinrich Harrer (6 Gorffennaf 1912 – 7 Ionawr 2006). Yn enedigol o Awstria, mae'n enwog am fod yn un o'r pedwar dringwr a ddringodd wyneb gogleddol yr Eiger am y tro cyntaf. Roedd yn dringo yn yr Himalaya pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd, a chymerwyd ef yn garcharor gan y Prydeinwyr. Llwyddodd i groesi i Tibet lle bu'n byw am rai blynyddoedd, gan ddod i adnabod y Dalai Lama. Ysgrifennodd lyfr Saith Mlynedd yn Tibet a ystyrir yn glasur, ac a wnaed yn ffilm yn nes ymlaen.