Defod ar ffurf gorymdaith (a chasgliad o ganeuon cysylltiedig) a geid yn y gwledydd Celtaidd oedd hela'r dryw (amrywiad: hela'r dryw bach) a oedd yn tarddu o ddefodau cyn-Gristnogol yn ymwneud â dathlu duw'r goleuni, drwy aberthu brenin yr adar, sef y dryw bach, i'r duw hwn. Mae'n dilyn dydd byra'r flwyddyn, sef Alban Arthan ac yn ddathliad fod yr haul yn codi'n gynt, pob cam ceiliog ac o ailenedigaeth yr haul. Mae creu'r aderyn lleiaf yn symbol o'r haul, y duw mwyaf, yn eironig iawn. Mae ailactio marwolaeth ac ailenedigaeth yr haul mewn defod, fel hyn, yn digwydd mewn llawer o ieithoedd Indo-Ewropeaidd; ystyr y gair 'dryw' mewn sawl iaith yw 'brenin'. Daeth y traddodiad i ben yng ngwledydd Prydain, fwy neu lai oherwydd y Gymdeithas yn Erbyn Creulondeb i Anifeiliaid, yn dilyn ymgyrch ganddynt, yn ôl William S. Walsh yn ei lyfr Curiosities of Popular Customs.
Crybwyllir y ddefod hon gyntaf yn 1696 (gweler isod).[1] Ceir tystiolaeth o'r ddefod hefyd mewn ieithoedd eraill, gan gynnwys Saesneg a Ffrangeg. Arferid ei chynnal drwy Ragfyr a dechrau Ionawr, hyd at Nos Ystwyll (6ed o Ionawr). Parhaodd y ddefod yn ddi-dor yn Iwerddon, ac fe'i dathlwyd yn benodol ar y 26ain o Ragfyr (Gŵyl San Steffan).
Dywed Edward Llwyd (1660-1709): "Arferent yn Swydd Benfro ayb ddwyn driw mewn elor ar Nos Ystwyll; oddi wrth gŵr ifanc at ei gariad, sef dau neu dri ai dygant mewn elor gyda rhubanau; ag a ganant garolion. Ânt hefyd i dai eraill lle ni bo cariadon a bydd cwrw ayb." Diflannodd yr arferiad hwn o Gymru oddeutu 1890.[2]
Weithiau, os nad oedd dryw ar gael defnyddid aderyn y to. Arferai criw'r orymdaith fynd o dŷ i dŷ yn cynnig hela dryw, ac fel tâl am y gwaith, cânt fwyd, diod neu arian. Yn aml iawn, roedd ganddynt flwch pwrpasol ar ffurf cawell er mwyn cadw'r aderyn yn fyw. Am hwyl, cludai rhai o'r dorf bastwn, picell neu arfau eraill. Mae'r ddefod yn eitha tebyg i orymdaith y Fari Lwyd mewn sawl ffordd, gan gynnwys y defnydd o wahoddiad i dŷ, bwyd, diod, lliw, rhubannau a chlychau.