Helen Prejean | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 21 Ebrill 1939 ![]() Baton Rouge ![]() |
Man preswyl | New Orleans ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | amddiffynnwr hawliau dynol, llenor ![]() |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Pacem in Terris, Medal Laetare, James Cardinal Gibbons Medal, Christopher Award, Teacher of Peace Award ![]() |
Gwefan | https://www.sisterhelen.org/ ![]() |
Awdures Americanaidd yw Helen Prejean C.S.J. (ganwyd 21 Ebrill 1939) sydd yn lleian ac aelod o eglwys St. Joseph, New Orleans. Mae wedi dadlau dros ddiddymu'r y gosb eithaf drwy gydol ei hoes.
Fe'i ganed yn Baton Rouge, Louisiana ar 21 Ebrill 1939. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Saint Paul, Ontario.[1][2][3]
Sefydlodd Prejean y grwpiau SURVIVE, i helpu teuluoedd dioddefwyr a lofruddiwyd. Gwasanaethodd fel Cadeirydd Cenedlaethol y Glymblaid Genedlaethol i Ddiddymu'r Gosb Eithaf (the National Coalition to Abolish the Death Penalty) rhwng 1993 a 1995. Cynorthwyodd i sefydlu Ymgyrch Moratoriwm, gan geisio gwneud yr ymarfer o ddienyddio yn anghyfreithlon.
Mae hi'n fwyaf adnabyddus am ei llyfr poblogaidd, Dead Man Walking (1993), sy'n seiliedig ar ei phrofiadau gyda dau confict ar res marwolaeth y bu'n gynghorydd ysbrydol iddynt cyn eu dienyddio. Yn ei llyfr, archwiliodd effeithiau'r gosb eithaf ar bawb dan sylw. Addaswyd y llyfr fel ffilm 1995 o'r un enw, gyda Susan Sarandon a Sean Penn yn serennu. Fe'i haddaswyd hefyd fel opera, a gynhyrchwyd gyntaf yn 2000 gan Gwmni Opera San Francisco.