Helen McCrory | |
---|---|
Ganwyd | Helen Elizabeth McCrory 17 Awst 1968 Llundain |
Bu farw | 16 Ebrill 2021 o canser y fron Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru Yr Alban Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor llwyfan, actor ffilm |
Priod | Damian Lewis |
Plant | Manon Lewis, Gulliver Lewis |
Gwobr/au | OBE |
Actores o Loegr oedd Helen Elizabeth McCrory OBE (17 Awst 1968 [1][2] – 16 Ebrill 2021)[3]
Roedd McCrory yn fwyaf adnabyddus am ei roliau ffilm fel Cherie Blair yn The Queen (2006) a The Special Relationship (2010), fel Narcissa Malfoy yn y tair ffilm "Harry Potter" olaf, fel Clair Dowar yn ffilm James Bond Skyfall (2012). Roedd hi'n enwog hefyd am ei rol fel Polly Grey yn y gyfres deledu BBC Peaky Blinders (2013–2019).
Cafodd McCrory ei geni yn Paddington, Llundain, yn ferch y Cymraes Ann (née Morgans), a'r diplomydd Albanaidd Iain McCrory. Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Queenswood. Priododd yr actor Damian Lewis yn 2007.[4]
Bu farw McCrory o ganser y fron, yn 52 oed.[5]