Helena Blavatsky | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Елена Петровна Ган ![]() 31 Gorffennaf 1831 (yn y Calendr Iwliaidd) ![]() Dnipro ![]() |
Bu farw | 26 Ebrill 1891 (yn y Calendr Iwliaidd) ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | athronydd, llenor, newyddiadurwr, ocwltydd, golygydd, theosophydd ![]() |
Adnabyddus am | The Secret Doctrine ![]() |
Tad | Peter Hahn ![]() |
Mam | Yelena Hahn ![]() |
Gwobr/au | Subba Row Medal ![]() |
Awdures o Ymerodraeth Rwsia a'r Unol Daleithiau oedd Helena Blavatsky (neu Helena Petrovna Blavatsky; 31 Gorffennaf 1831 - 26 Ebrill 1891) a oedd yn athronydd, newyddiadurwr ac ocwltydd. Fe'i ganed yn Dnipro, 4ydd dinas fwyaf Wcráin a bu farw yn Llundain o'r ffliw.[1][2][3][4][5]
Yn 1875 cyd-sefydlodd y Gymdeithas Theosoffi (the Theosophical Society) yn Ninas Efrog Newydd. Roedd ganddi ddilynwyr ledled y byd, ac adnabyddwyd hi fel prif arweinydd y grefydd esoterig Theosoffi haniaethol, yn ei chyfnod.
Fe'i ganed i deulu aristocrataidd Rwsia-Almaenig yn Yekaterinoslav (Dnipro heddiw), a oedd yn rhan o Ymerodraeth Rwsia, teithiodd Blavatsky yn eang o amgylch yr Ymerodraeth Rwsia fel plentyn. Yn hunan-addysgiadol yn bennaf, datblygodd ddiddordeb mewn esoteriaeth Gorllewinol yn ystod ei harddegau. Honodd, yn ddiweddarach, iddi fynd ar gyfres o deithiau yn 1849 lle'r ymwelodd ag Ewrop, America, ac India, gan honni iddi ddod ar draws grŵp o bobl ysbrydol, "Meistr yr Hen Ddoethineb" yn Shigatse, Tibet, lle buont yn ei hyfforddi i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o synthesis crefydd, athroniaeth a gwyddoniaeth. Mae beirniaid cyfoes a rhai bywgraffwyr diweddarach wedi dadlau bod rhai (neu bob un) o'r ymweliadau tramor hyn yn ffug, a'i bod wedi treulio'r cyfnod hwn yn Ewrop. [6][7]
Erbyn dechrau'r 1870au, roedd Blavatsky yn ymwneud â'r mudiad Ysbrydolrwydd (Spiritualism). Er ei bod yn amddiffyn bodolaeth ffenomenau Ysbrydolrwydd, dadleuodd yn erbyn y syniad fel prif ffrwd, mai ysbrydion y meirw oedd yr endidau y cysylltwyd â hwy. Ymfudodd i'r i Unol Daleithiau America yn 1873, a daeth yn gyfaill i Henry Steel Olcott a daeth i lygad y cyhoedd fel cyfryngydd i ysbrydion, sylw a oedd yn cynnwys cyhuddo rhai pob o dwyll.
Yn 1877 cyhoeddodd Isis Unveiled, llyfr a oedd yn amlinellu ei barn ar theosoffi.