Helke Sander | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 31 Ionawr 1937 ![]() Berlin ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, newyddiadurwr, llenor, academydd, actor ffilm, sgriptiwr, cyfarwyddwr theatr, actor, sgriptiwr ffilm ![]() |
Cyflogwr | |
Priod | Markku Lahtela ![]() |
Plant | Silvo Lahtela ![]() |
Gwobr/au | Deutscher Filmpreis ![]() |
Gwefan | http://www.helke-sander.de/ ![]() |
Awdures o'r Almaen yw Helke Sander (ganwyd 31 Ionawr 1937) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyfarwyddwr ffilm, newyddiadurwr, ymgyrchydd dros hawliau merched ac academydd. Caiff ei chofio fwyaf am ei gadw ar gof a chadw, mewn ffilmiau dogfen, hanes ymgyrchoedd ffeministaidd y 1960au a'r 1970au yn yr Almaen ac fe'i nodweddir gan ei gwaith arbrofol hefyd; darluniodd bywyd pob dydd y fenyw, a'r problemau sy'n eu hwynebu. Caiff ei hystyried gan lawer fel sylfaenydd y mudiad a'r symudiad ffeministaidd "newydd", a sbardunwyd gan ei hanerchiad i Gynhadledd Myfyrwyr Sosialaidd yr Almaen yn 1968.[1]