![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 2,788 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.2325°N 3.1833°W ![]() |
Cod SYG | W04000991 ![]() |
Cod OS | SJ211714 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au y DU | Becky Gittins (Llafur) |
![]() | |
Pentref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Helygain ( ynganiad ) (Saesneg: Halkyn),[1] ond hefyd clywir rhai o drigolion y pentref yn ei alw'n "Lygian". Fe'i lleolir tair milltir i'r de-orllewin o dref Y Fflint, rhwng Pentre Helygain i'r gorllewin a Llaneurgain i'r dwyrain, ar lôn yr A55. Ceir Swyddfa Post, eglwys, tafarn a llyfrgell yno. Saif ar lethrau gogleddol Mynydd Helygain, sydd gerllaw.
Mae Pentre Helygain yn un o "blwyfi hynafol" Sir y Fflint. Yn wreiddiol roedd yn cynnwys trefi canoloesol Hendrefigillt, Llugan y Llan a Llugan y Wern. Cyfeirir at y pentref yn Llyfr Dydd y Farn dan yr enw Alchene.[2]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Becky Gittins (Llafur).[4]