Helynt Profumo

Helynt Profumo
Enghraifft o:Sgandal wleidyddol Edit this on Wikidata
Dyddiad1960s Edit this on Wikidata
Dechreuwyd9 Gorffennaf 1961 Edit this on Wikidata
Daeth i ben4 Mehefin 1963 Edit this on Wikidata
Lleoliady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Sgandal wleidyddol yn y Deyrnas Unedig ym 1963 oedd Helynt Profumo, yn ymwneud â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel ar y pryd, John Profumo. Datblygodd yr helynt ar ôl i Profumo gael perthynas fer gyda sioeferch, Christine Keeler. Honwyd hefyd ei bod hi'n feistres i ddyn a oedd yn ysbïwr Rwsiaidd; dywedodd Profumo gelwydd yn Nhŷ'r Cyffredin pan holwyd ef am hyn. Gorfodwyd i Profumo ymddeol oherwydd yr helynt, a niweidwyd enw da llywodraeth y Prif Weinidog Harold Macmillan yn ddifrifol. Ymddeolodd Macmillan ychydig fisoedd yn ddiweddarach oherwydd salwch.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne