Enghraifft o: | anthem genedlaethol |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
Dechrau/Sefydlu | Ionawr 1856 |
Libretydd | Evan James |
Lleoliad y perff. 1af | Maesteg |
Cyfansoddwr | James James |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Anthem genedlaethol Cymru yw Hen Wlad fy Nhadau. Ysgrifennwyd y geiriau gan Evan James (1809-1878), a chyfansoddwyd y dôn gan ei fab James James (1833-1902) ym mis Ionawr 1856. Roedd y ddau yn drigolion o Bontypridd. Gwehydd a bardd oedd y mab, a thelynor oedd y tad.
Ymddengys y sgwennwyd y geiriau fel ymateb i wahoddiad gan y bardd a dderbyniasai gan ei frawd i ymuno ag ef yn yr Unol Daleithiau, lle’r oedd cynifer o Gymry’r cyfnod yn chwilio am well byd, a bod y gân yn ddatganiad fod gwlad genedigaeth y bardd (sef ‘gwlad ei dadau’) yn ddigon da iddo ef. Rhoddwyd iddi yr enw ‘Glan Rhondda’, gan mai ar lannau’r afon, yn ôl traddodiad, y daeth yr alaw i feddwl y cyfansoddwr.
Perfformiwyd y gân, neu 'Glan Rhondda' fel y gelwid hi'n wreiddiol, am y tro cyntaf yn festri Capel Tabor, Maesteg yn Ionawr neu Chwefror 1856, gan gantores leol, Elizabeth John. Argraffwyd y geiriau'n unigrhagor ar ffurf baled, ac wedi hynny, daeth y gân yn boblogaidd drwy'r ardal. Daeth hi'n fwy adnabyddus fyth yn Eisteddfod Llangollen, 1858, ar ôl i Llewelyn Alaw (Thomas David Llewelyn) (1828–79) o Aberdâr ddod yn fuddugol mewn cystadleuaeth yn gofyn am gasgliad o alawon Cymreig oedd heb eu cyhoeddi. Fodd bynnag, ni phriodolwyd y geiriau i Evan a James James!
Cynhwyswyd y geiriau a'r alaw, eto yn ddienw, gan feirniad y gystadleuaeth, John Owen (Owain Alaw; 1821–83) yn ei gasgliad cyntaf o Gems of Welsh Melody a gyhoeddwyd gan Isaac Clarke yn Rhuthun yn 1860. Dyma'r argraffiad cyntaf o'r geiriau a'r alaw ac fe'u hargraffwyd yn yr adeilad du-a-gwyn a elwir heddiw yn 'Siop Nain'.
Owain Alaw oedd yn gyfrifol am drefnu fersiwn gwreiddiol James James a rhoi i’r gân y naws emynyddol a’i gwnaeth yn gân dorfol boblogaidd: mae copïau llawysgrif cynnar yn awgrymu mai alaw ddawns ysgafn yn amseriad cyfansawdd 6/8 oedd ei ffurf wreiddiol gan James James, a oedd yn delynor poblogaidd a chwaraeai mewn tafarndai yn ei ardal. O fewn ychydig flynyddoedd, daeth y gân yn adnabyddus mewn eisteddfodau, a’i defnyddio’n gân gystadleuol gan gorau yn ogystal ag yn gân i’w chanu i gloi defodau a chyngherddau. Ceir tystiolaeth er enghraifft iddi gael ei chanu fwy nag unwaith yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1865, ac fe’i poblogeiddiwyd gan Eos Morlais (Robert Rees) wedi iddo ei chanu yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1874.
Fe’i canwyd am y tro cyntaf mewn gêm rygbi ryngwladol ar achlysur gornest fawr Cymru yn erbyn Seland Newydd yn 1905. Mae ei phoblogrwydd mewn gemau rygbi rhyngwladol yn yr 20g. wedi sicrhau ei bod yn adnabyddus fel anthem ar draws y byd, ac fe’i cynhwysir yn rheolaidd mewn casgliadau printiedig o anthemau cenedlaethol y gwledydd. Mae ei symudiad llyfn a’r uchafbwyntiau a geir yn y gytgan yn ei gwneud yn gân addas tu hwnt i dorfeydd, ac fe’i hystyrir yn gyffredinol yn un o’r goreuon o blith anthemau cenedlaethol.