Henry Allingham | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 6 Mehefin 1896 ![]() Llundain ![]() |
Bu farw | 18 Gorffennaf 2009 ![]() o heneidd-dra ![]() Brighton ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Galwedigaeth | person milwrol, hunangofiannydd ![]() |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Medal Rhyfel Prydain, Medal Buddugoliaeth, Medal Victoria ![]() |
Peiriannydd o Sais a wasanaethodd yn Llynges Lloegr a'r Awyrlu Brenhinol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf oedd y Peiriannydd Awyr[1] Henry William Allingham (6 Mehefin 1896 – 18 Gorffennaf 2009). Ef oedd goroeswr olaf Brwydr Jutland ac yn un o'r goroeswyr olaf a wasanaethodd yn y lluoedd arfog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ym mis Mawrth 2009 daeth yn y dyn hynaf erioed o'r Deyrnas Unedig, gan fyw'n hirach na'r Cymro John Evans,[2] ac roedd yn ddyn byw hynaf y byd o 19 Mehefin 2009 hyd ei farwolaeth mis yn hwyrach.[3]