Henry Herbert, 2il Iarll Penfro | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | c. 1538 ![]() |
Bu farw | 19 Ionawr 1601 (yn y Calendr Iwliaidd) ![]() Wilton ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | Lord Lieutenant of Wales, Lord Lieutenant of Wiltshire, Arglwydd Raglaw Gwlad yr Haf, Arglwydd Raglaw Sir Fynwy ![]() |
Tad | William Herbert ![]() |
Mam | Anne Herbert ![]() |
Priod | Katherine Grey, Katherine Talbot, Mary Sidney ![]() |
Plant | Philip Herbert, 4ydd Iarll Penfro, William Herbert, merch anhysbys Herbert ![]() |
Gwobr/au | Urdd y Gardas ![]() |
Uchelwr Cymreig oedd Henry Herbert, 2il Iarll Penfro (c.1534 - 19 Ionawr 1601). Ef a fu'n gyfrifol am gryfhau Castell Caerdydd. Roedd yn ddyn diwylliedig ac roedd yr achau Cymreig yn bwysig iddo.[1] Ysgrifennydd iddo oedd y bardd a'r milwr Wiliam Midleton o Lansannan.
Roedd Henry yn fab i William Herbert, Iarll 1af Penfro (1501–1570) ac Anne Parr, Iarlles Penfro. Ei fodryb oedd Catherine Parr, gwraig olaf Harri VIII. Roedd ei ewyrth William Parr, ardalydd 1af Northampton yn ddyn pwerus iawn yn ystod teyrnasiad Edward VI ac yna Elisabeth I.
Ar farwolaeth ei dad yn 1570 fe'i gwnaed yn Iarll Penfro ac ar 4 Ebrill 1570 dyrchafwyd ef yn Lord Lieutenant of Wiltshire. Ar farwolaeth ei fam fe'i gwnaed yn Arglwydd Parr a Ros o Kendal, Arglwydd FitzHugh, Arglwydd Marmion ac yn Arglwydd Quentin ar 1 Awst 1571.