Henry Lewis | |
---|---|
Ganwyd | 21 Awst 1889 ![]() Abertawe ![]() |
Bu farw | 14 Ionawr 1968 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | person dysgedig, academydd ![]() |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | CBE ![]() |
Ysgolhaig Cymreig oedd Henry Lewis (21 Awst 1889 – 14 Ionawr 1968).
Ganed ef yn Ynystawe yn yr hen Sir Forgannwg. Graddiodd mewn Cymraeg o Goleg Prifysgol Cymru Caerdydd cyn mynd i Goleg yr Iesu, Rhydychen, lle bu'n astudio dan Syr John Rhys. Bu'n athro ysgol yn Ystalyfera a Llanelli, yna yn y Rhyfel Byd Cyntaf bu'n swyddog gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Wedi'r rhyfel, daeth yn is-ddarlithydd yn adran y Gymraeg yng Nghaerdydd, cyn cael cadair y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Abertawe yn 1921, swydd a ddaliodd hyd ei ymddeoliad yn 1954.
Bu'n olygydd Cyfres y Brifysgol a'r Werin am gyfnod, a chyfieithodd Brenin yr Ellyllon gan Gogol i'r gyfres.