Henry Fonda | |
---|---|
Ganwyd | Henry Jaynes Fonda 16 Mai 1905 Grand Island |
Bu farw | 12 Awst 1982 o clefyd y galon Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, swyddog yn y llynges, gwenynwr, sgriptiwr, actor llwyfan, cynhyrchydd teledu, actor, cynhyrchydd ffilm, cynhyrchydd, person milwrol, swyddog milwrol |
Arddull | y Gorllewin gwyllt, sbageti western, ffilm ddrama, ffilm drosedd, ffilm gyffro, ffilm llawn cyffro, ffilm antur, film noir, ffilm gomedi, ffilm ryfel, ffilm am ddirgelwch, Ffilm gyffro seicolegol, ffilm ffantasi |
Taldra | 185 centimetr |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Tad | William Brace Fonda |
Mam | Elma Herberta Jaynes |
Priod | Margaret Sullavan, Afdera Franchetti, Frances Ford Seymour, Susan Blanchard, Shirley Maye Adams |
Plant | Peter Fonda, Jane Fonda |
Gwobr/au | Medal y Seren Efydd, Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Gwobr Tony am yr Actor Gorau mewn Drama, Anrhydedd y Kennedy Center, Gwobr am Gyfraniad Gydol Oes AFI, Eagle Scout, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, BAFTA Award for Best Foreign Actor, Gwobr Grammy am yr Albwm Llafar Gorau, David di Donatello Award for Lifetime Achievement |
Actor ffilm a theatr o'r Unol Daleithiau oedd Henry Jaynes Fonda (16 Mai 1905 – 12 Awst 1982).[1]
Ganwyd yn Grand Island, Nebraska, a chychwynnodd ei yrfa actio gyda'r Omaha Community Playhouse. Aeth ymlaen i berfformio ar Broadway cyn iddo symud i Hollywood ym 1935. Ymddangosodd mewn dros 100 o ffilmiau gan gynnwys A Farmer Takes a Wife (1935), Young Mr. Lincoln (1939), The Grapes of Wrath (1940), The Lady Eve (1941), The Oxbow Incident (1943), The Wrong Man (1956), Twelve Angry Men (1957), ac Once Upon a Time in the West (1968). Enillodd Wobr yr Academi am Actor Gorau am ei berfformiad yn On Golden Pond (1981). Ymhlith ei berfformiadau theatr roedd Mister Roberts (1948–51), Two for the Seesaw (1958), a Clarence Darrow (1974–5).
Bu'n briod pump o weithiau ac roedd yn dad i'r actorion Jane Fonda a Peter Fonda.