![]() | |
Math | tref, ardal ddi-blwyf ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Caerhirfryn |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaerhirfryn (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 54.046°N 2.894°W ![]() |
Cod OS | SD415615 ![]() |
![]() | |
Tref yn Swydd Gaerhirfryn, Gogledd-orllewin Lloegr, ydy Heysham.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Dinas Caerhirfryn. Mae'n gorwedd ar lan Bae Morecambe ac yn borthladd fferi i Ynys Manaw.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Heysham boblogaeth o 15,633.[2]
Ceir yma feddrodau wedi'u cerfio allan o garreg, rhai hynod iawn - a defnyddiwyd llun ohonynt ar glawr un o albymau Black Sabbath: 'The Best of Black Sabbath'.