Hieronymus Bosch | |
---|---|
Ffugenw | Aeken, Hieronymus van, Aken, Hieronymus van, Aken, Jeroen Anthoniszoon van, Aken, Jheronymus van, Aquen, Jheronimus, Bos, Jeronimus |
Ganwyd | Jheronimus van Aken c. 1450 's-Hertogenbosch |
Bu farw | Awst 1516 's-Hertogenbosch |
Dinasyddiaeth | De'r Iseldiroedd |
Galwedigaeth | arlunydd, drafftsmon, drafftsmon, artist |
Adnabyddus am | Gardd y Pleserau Daearol, Ship of Fools, Ecce Homo, The Seven Deadly Sins and the Four Last Things, The Last Judgment, The Marriage Feast at Cana, The Haywain Triptych, Visions of the Hereafter, The Conjurer |
Arddull | paentiadau crefyddol, peintio genre, peintio hanesyddol, portread, alegori |
Mudiad | paentio Iseldiraidd cynnar, Dadeni'r Gogledd |
Tad | Anthonis van Aken |
Priod | Aleyt Goyaerts van den Meerveen |
llofnod | |
Arlunydd Iseldiraidd cynnar oedd Hieronymus Bosch (ganed Jeroen Anthoniszoon van Aken c. 1450 – 9 Awst 1516). Mae ei waith yn enwog am ei ddefnydd o ddelweddau ffantasi er mwyn darlunio cysyniadau a naratifau moesol a chrefyddol.[1]
Mae'r enw Bosch yn dod o'r dref ble y ganwyd a threuliodd y rhan mwyaf o'i fywyd – 's-Hertogenbosch (rhwng Rotterdam ac Eindhoven) a elwir yn Den Bosch ar lafur. Heddiw yn y dref mae cerflun ac amgueddfa iddo.
Gwaith enwocaf Hieronymus Bosch yw Gardd y Pleserau Daearol, sy'n darlunio'n alegorïaidd pleserau'r cnawd. Cafodd ei baentio ar ddechrau'r 16g (tua 1503-05 efallai). Mae ar gadw yn amgueddfa Museo del Prado, Madrid.