Poster hyrwyddiad | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Kenny Ortega |
Cynhyrchydd | Don Schain |
Ysgrifennwr | Peter Barsocchini |
Serennu | Zac Efron Vanessa Hudgens Ashley Tisdale Lucas Grabeel Corbin Bleu Monique Coleman |
Cerddoriaeth | David Lawrence Matthew Gerrard Greg Cham Ray Cham Andy Dodd Faye Greenberg Jamie Houston Adam Watts Drew Lane Eddie Galan Andrew Seeley |
Sinematograffeg | Gordon Lonsdale |
Golygydd | Seth Flaum |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Disney Channel |
Dyddiad rhyddhau | 20 Ionawr 2006 |
Amser rhedeg | 97 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Olynydd | High School Musical 2 |
Gwefan swyddogol | |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Mae High School Musical yn ffilm deledu Americanaidd sydd wedi ennill Gwobr Emmy. Dyma oeddd y ffilm gyntaf yn y gyfres High School Musical. Pan ryddhawyd y ffilm ar yr 20fed o Ionawr, 2006 dyma oedd y ffilm mwyaf llwyddiannus i'r Disney Channel ei chreu erioed [1], gyda'r ffilm olynnol, High School Musical 2 yn cael ei rhyddhau yn 2007. Rhyddhawyd y ffilm lawn gyntaf High School Musical 3: Senior Year mewn sinemau ym mis Hydref 2008. Dyma oedd ffilm wreiddiol gyntaf Disney i gael ei rhyddhau mewn sinemau. Cyhoeddwyd y bydd High School Musical 4, ac mae hyn yn y broses o gael ei ysgrifennu[2]. Trac sain y ffilm oedd yr albwm a werthodd fwyaf yn yr Unol Daleithiau yn 2006.[3]
High School Musical oedd y ffilm Disney a wyliwyd fwyaf yn ystod 2006, gyda 7.7. miliwn o wylwyr yn gwylio'r darllediad cyntaf yn yr Unol Daleithiau.[4] Yn y Deyrnas Unedig, gwyliwyd y ffilm gan 789,000 o wylwyr, gan wneud y ffilm y rhaglen a wyliwyd fwyaf ar y Disney Channel (DU) yn 2006. Ar y 29ain o Ragfyr, 2006, High School Musical oedd y ffilm Disney Channel gyntaf i gael ei darlledu ar y BBC.
Gyda phlot sydd wedi cael ei gymharu gan yr awdur a nifer o feiriniaid fel addasiad gyfoes o Romeo a Juliet,[5] mae High School Musical yn adrodd hanes dau ddisgybl ysgol uwchradd o grŵpiau gwahanol - Troy Bolton (Zac Efron), capten y tîm pêl fasged, a Gabriella Montez (Vanessa Hudgens), myfyrwraig brydferth ond swil sy'n rhagori mewn mathemateg a gwyddoniaeth.[6] Mae'r ddau yn ceisio am y prif rannau yn sioe gerdd eu hysgol, ac o ganlyniad, rhannir eu hysgol yn ddau. Er gwaethaf ymdrechion myfyrwyr eraill i ddifetha'u breuddwydion cerddorol, llwydda Troy a Gabriella i wrthsefyll y pwysau wrth gyfoedion, gan ysbrydoli pobl eraill i beidio a "stick to the status quo" yn y broses.
Ffilmiwyd High School Musical yn East High School yn Salt Lake City, Utah, yn awditoriwm Murray High School, ac yng Nghanol Dinas Salt Lake City. Defnyddiwyd Murray High School fel set ar gyfer nifer o gynhyrchiadau eraill Disney: Take Down (1978), Read It and Weep (2006), Minutemen (2008) a High School Musical: Get in the Picture (2008).[7]