Poster cynnar y ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Ben Wheatley |
Cynhyrchydd | Jeremy Thomas |
Ysgrifennwr | Sgript gan: Amy Jump Seiliwyd ar: High-Rise gan J.G. Ballard |
Serennu | Tom Hiddleston Jeremy Irons Sienna Miller Luke Evans Elisabeth Moss James Purefoy Keeley Hawes |
Cerddoriaeth | Clint Mansell |
Sinematograffeg | Laurie Rose |
Golygydd | Amy Jump Ben Wheatley |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Recorded Picture Company Film4 British Film Institute HanWay Films Northern Ireland Screen Ingenious Media |
Dyddiad rhyddhau | 13 Medi 2015 (Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto) 18 Mawrth 2016 (Y Deyrnas Unedig) Dosbarthwyr StudioCanal |
Amser rhedeg | 119 munud[1] |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Ffilm gyffro ddystopaidd Saesneg o'r Deyrnas Unedig yw High-Rise a ryddhawyd yn 2015, a gyfarwyddwyd gan Ben Wheatley ac sy'n serennu Tom Hiddleston, Jeremy Irons, Sienna Miller, Luke Evans, Elisabeth Moss, James Purefoy a Keeley Hawes.[2] Seiliwyd y sgript gan Amy Jump ar y nofel o 1975 o'r un enw gan J. G. Ballard.[3] Fe'i chynhyrchwyd gan Jeremy Thomas drwy ei gwmni cynhyrchu Recorded Picture Company.[4][5]
Ym mis Medi 2015, arddangoswyd y ffilm am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto, a fe'i harddangoswyd am y tro cyntaf yn Ewrop yn y 63ain Gŵyl Ffilmiau San Sebastián. Rhyddhawyd y ffilm yn y Deyrnas Unedig ar 18 Mawrth 2016 gan StudioCanal.