Poster hyrwyddiad | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Kenny Ortega |
Cynhyrchydd | Kenny Ortega Bill Borden |
Ysgrifennwr | Peter Barsocchini |
Serennu | Zac Efron Vanessa Hudgens Ashley Tisdale Lucas Grabeel Corbin Bleu Monique Coleman |
Cerddoriaeth | David Lawrence Matthew Gerrard Randy Peterson Andy Dodd Faye Greenberg Jamie Houston Adam Watts Antonnia Armato Andy Dodd Kevin Quinn Robbie Nevil Shankar Mahadevan |
Sinematograffeg | Gordon Lonsdale |
Golygydd | Seth Flaum |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Disney Channel |
Dyddiad rhyddhau | 17 Awst 2007 |
Amser rhedeg | 104 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Rhagflaenydd | High School Musical |
Olynydd | High School Musical 3: Senior Year |
Gwefan swyddogol | |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Ffilm deledu Disney yw High School Musical 2 sy'n serennu Zac Efron a Vanessa Hudgens. Dyma'r ail ffilm yn y gyfres a chafodd ei noson agoriadol yn Disneyland, Anaheim, Califfornia ar yr 17eg o Awst, 2007. Mynychodd y prf gast y digwyddiad. Dangoswyd y ffilm ar y teledu am y tro cyntaf ar yr un noson, ar y Disney Channel yn yr Unol Daleithiau ac ar y sianel Family yng Nghanada.
Yn y ffilm, mae cymeriad Troy Bolton yn poeni ynglŷn â chael swydd, am fod pris mynd i'r coleg yn pwyso'n drwm ar ei feddwl, yn ogystal â cheisio sicrhau y bydd ef a'i gariad Gabriella Montez yn medru bod yng nghwmni ei gilydd dros wyliau'r Haf.
Gwelwyd y noson agoriadol gan gyfanswm o 17.3 miliwn o wylwyr yn yr Unol Daleithiau - 10 miliwn yn fwy na'r ffilm flaenorol - gan wneud y ffilm y ffilm Disney Channel mwyaf poblogaidd bryd hynny.