Teimlad o alar, gofid a cholled am fod oddi cartref neu o golli rhywun yw hiraeth (Cernyweg: hyreth, Llydaweg: hiraezh, Hen Wyddeleg: sirecht). Gair cyfansawdd ydyw: "hir" ac "aeth". Ynghlwm yn y gair hefyd mae'r elfen o ddymuniad neu ddyhead dwys.[1] Ceir geiriau tebyg mewn Galisieg (morriña) ac mewn Portiwgaleg (saudade).
Cofnodwyd y gair am y tro cyntaf yn y 13g yn Y Gododdin: Blwydyn hiraether gwyr gatraetham maeth ysmeu.
Mae Hiraeth hefyd yn ffilm gan Graham Bowers, ac yn enw ar sawl darn o farddoniaeth.