Enghraifft o: | gwaith llenyddol ![]() |
---|---|
Awdur | Terry Pratchett ![]() |
Iaith | Saesneg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 1996 ![]() |
Genre | ffantasi ![]() |
Cyfres | Disgfyd, Death ![]() |
Cymeriadau | Death ![]() |
Prif bwnc | Nadolig ![]() |
Nofel ffantasi ddigri gan Terry Pratchett ydy Hogfather, a'r 20fed nofel yng nghyfres y Disgfyd. Cyhoeddwyd yn 1996.
Mae'r Hogfather hefyd yn gymeriad yn y llyfr, mae'n personoliad anthropomorphig, sy'n cynyrchioli rhywbeth tebyg i Siôn Corn. Mae'n rhoi dymuniadau i blant y Disgfyd ar Hogswatchnight (y 32ain o Ragfyr) ac yn dod ag anrhegion iddynt, mae hefyd yn ymddangos yn nofelau eraill y Disgfyd.
Mae'r llyfr yn ymdrin â natur crêd, yn arbennig y ffordd mae pobl yn teimlo'r angen i gredu mewn pethau bach lle nad oes unrhyw dystiolaeth, megis y "Hogfather" a "Tooth Fairie", er mwyn gallu credu mewn pethau mwy fel Cyfiawnder a Gobaith. Fel y disgrifia Pratchett, mae ffantasi yn feic ymarfer yr ymenydd; nid yw'n mynd i unman ond mae'n gwella'r cyhyrau y gall.