Hollyoaks | |
---|---|
![]() | |
Genre | Opera sebon |
Serennu | Rhestr o gymeriadau Hollyoaks |
Gwlad/gwladwriaeth | DU |
Iaith/ieithoedd | Saesneg |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | c.25 munud |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | Channel 4 |
Darllediad gwreiddiol | 23ain o Hydref, 1995 – Presennol |
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol |
Mae Hollyoaks yn opera sebon yn y DU a ddarlledwyd am y tro cyntaf ar y 23ain o Hydref, 1995 ar Sianel 4. Yn wreiddiol, syniad Phil Redmond a ddyfeisiodd y rhaglenni Brookside a Grange Hill oedd Hollyoaks. Lleolir y rhaglen yn un o faesdrefi ffuglennol Caer o'r enw Hollyoaks, ac mae'r llinynau stori yn gwirdroi o amgylch coleg addysg bellach lleol o'r enw Hollyoaks Community College. Mae'r mwyafrif o'r cymeriadau yn eu harddegau hwyr neu ugeiniau cynnar. Ers 1995, mae'r cast wedi datblygu o saith prif gymeriad yn unig i oddeutu 50 o aelodau.
Ar hyn o bryd, cyfarwyddir y sioe gan Lucy Allan a olynodd Bryan Kirkwood fel cynhyrchydd ar ddiwedd 2008.