Term anghlinigol[3][4] a ddefnyddir i ddisgrifio ofn, gwrthnawsedd i, neu wahaniaethu yn erbyn cyfunrywioldeb neu gyfunrywiolion[5][6] yw homoffobia (o'r Roeg ὁμο homo, "cyfun" + φοβία (ffobia), "ofn"). Gall hefyd olygu casineb, gelyniaeth, anghymeradwyaeth, neu ragfarn tuag at gyfunrywiolion, neu ymddygiad neu ddiwylliannau cyfunrywiol.[6]
Cred rhai bod unrhyw ddefnydd o'r gair homoffobia yn ddadleuol[7] ac mae nifer o eiriaduron yn disgrifio'r fath hwn o ofn yn afresymol.[6][8][9] Mewn rhai defnyddiau mae'r ystyr yn ymglymu deurywioldeb, trawsrywedd ac/neu unrhyw rywioldeb nad yw'n heterorywiol yn ogystal â chyfunrywioldeb.[10][11]
↑Paula A. Treichler, AIDS, Homophobia, and Biomedical Discourse: An Epidemic of Signification, Hydref, Cyfrol 43, AIDS: Cultural Analysis/Cultural Activism (Winter, 1987), tud. 31-70.