República de Honduras Gweriniaeth Hondwras | |
Arwyddair | Libre, Soberana e Independiente |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad |
Prifddinas | Tegucigalpa |
Poblogaeth | 10,062,994 |
Sefydlwyd | 1810 (Annibyniaeth oddi wrth Sbaen) 1836 (eu cydnabod gan eraill) |
Anthem | Anthem Genedlaethol Honduras |
Pennaeth llywodraeth | Xiomara Castro, Juan Orlando Hernández, Porfirio Lobo Sosa, Roberto Micheletti, Manuel Zelaya, Ricardo Maduro, Carlos Roberto Flores |
Cylchfa amser | UTC−06:00, America/Tegucigalpa |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | America Ladin, Canolbarth America, America Sbaenig, Yr Amerig |
Arwynebedd | 112,492 km² |
Yn ffinio gyda | Gwatemala, El Salfador, Nicaragwa |
Cyfesurynnau | 14.63333°N 86.81667°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Hondwras |
Corff deddfwriaethol | Cynghrair Cenedlaethol Hondwras |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Hondwras |
Pennaeth y wladwriaeth | Xiomara Castro |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Hondwras |
Pennaeth y Llywodraeth | Xiomara Castro, Juan Orlando Hernández, Porfirio Lobo Sosa, Roberto Micheletti, Manuel Zelaya, Ricardo Maduro, Carlos Roberto Flores |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $28,489 million, $31,718 million |
Arian | Lempira Hondwraidd |
Canran y diwaith | 4 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 2.382 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.621 |
Gweriniaeth ddemocrataidd yng Nghanolbarth America yw Gweriniaeth Hondwras ( ynganiad brodorol ; Sbaeneg: República de Honduras). Mae'n ffinio â Gwatemala i'r gorllewin, El Salfador i'r de-orllewin, i'r de gan y Cefnfor Tawel, ac i'r gogledd gan Fôr y Caribî. Arferid cyfeirio ati fel "Hondwras Sbaenig" er mwyn ei gwahaniaethu oddi wrth "Hondwras Prydeinig" (ers hynny: Belîs).[1] Sefydlwyd sawl diwylliant Mesoamericanaidd yma, ganrifoedd cyn i'r dyn gwyn oresgyn y wlad yn y 16g. Mae'r Sbaeneg yn dal i gael ei siarad, ochr yn ochr a'r ieithoedd brodorol. Sicrhawyd annibyniaeth y wlad oddi wrth Sbaen yn 1821. Mae ganddi boblogaeth o 10,062,994 (2021)[2].
Mae Hondwras yn un o'r gwledydd tlotaf yn Hemisffer y Gogledd, ac mae awdurdod y wlad yn ganolog ac oddi fewn i'r gymdeithas yn fregys iawn. Yn 1960, trosglwyddwyd yr hyn a elwid yn "Arfordir y Mostgito" o Nicaragua i Hondwras gan y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol.[3] Yn wleidyddol, roedd y wlad yn eitha sefydlog hyd at coup d'état 2009 a'r etholiad arlywyddol yn 2017. Yn niwedd y 2010au, roedd y gymhareb llofruddiaethau i bob mil person, yn Hondwras - a'r trais yn erbyn merched yn waeth nag unrhyw wlad arall ar y blaned.[4][5]
Amaethyddiaeth yw sail economi'r wlad, a cheir trychinebau natur yn aml, megis Corwynt Mitch yn 1998 a ysgydwodd y wlad i'w seiliau. Yn y trefi a'r dinasoedd mae cyfoeth y wlad, fodd bynnag. Mae Mynegai Datblygiad Dynol ar hyn o bryd yn 0.621.[6]
|deadurl=
ignored (help)