Hong Cong 香港 (Tsieineeg) | |
Math | rhanbarth gweinyddol arbennig, dinas, dinas fawr, metropolis, dinas global, rhestr o diriogaethau dibynnol, dinas-wladwriaeth, tiriogaeth tollau Tsieina |
---|---|
Poblogaeth | 7,413,070 |
Sefydlwyd | 26 Ionawr 1841 (dan reolaeth Lloegr (y DU)) 1 Gorffennaf 1997 (dychwelwyd i Tsieina) |
Anthem | Gorymdaith y Gwirfoddolwyr |
Pennaeth llywodraeth | John Lee |
Cylchfa amser | UTC+08:00 |
Gefeilldref/i | Dubai |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Mandarin safonol |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gweriniaeth Pobl Tsieina, Dwyrain Asia |
Sir | Gweriniaeth Pobl Tsieina |
Gwlad | Gweriniaeth Pobl Tsieina |
Arwynebedd | 1,105.69 km², 1,649.34 km², 2,755.03 km² |
Uwch y môr | 7 ±1 metr |
Gerllaw | Afon Shing Mun, Môr De Tsieina |
Yn ffinio gyda | Guangdong, Shenzhen, Zhuhai |
Cyfesurynnau | 22.28°N 114.16°E |
CN-HK | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Hong Cong |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Deddfwriaethol Hong Cong |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weithredwr Hong Cong |
Pennaeth y Llywodraeth | John Lee |
Crefydd/Enwad | Bwdhaeth, Taoaeth, Conffiwsiaeth, Cristnogaeth, Hindŵaeth, Islam, Siciaeth, Iddewiaeth |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $368,911 million, $359,839 million |
Arian | Doler Hong Cong |
Canran y diwaith | 3.4 canran, 2.8 canran, 2.9 canran, 5.8 canran, 5.2 canran, 4.3 canran, 3.3 canran, 3.4 canran, 3.3 canran, 3.3 canran, 3.4 canran, 3.1 canran |
Cyfartaledd plant | 1.234 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.952 |
Un o ddau ranbarth gweinyddol arbennig Gweriniaeth Pobl Tsieina yw Hong Cong (Tsieineeg: 香港); y llall yw Macau. Fe'i lleolir ar arfordir deheuol Tsieina wedi'i hamgylchynu gan delta'r Afon Perl a Môr De Tsieina,[1]. Mae'n nodedig am nenlinell o adeiladau uchel a'i harbwr naturiol tyfn. Gydag arwynebedd o 1,104 km2 (426 mi sgw) a phoblogaeth o saith miliwn o bobl, Hong Cong yw un o'r ardaloedd dwysaf ei phoblogaeth yn y byd.[2] Mae 95 y cant o boblogaeth Hong Cong yn Tsieineaidd a 5 y cant yn perthyn i grwpiau ethnig eraill.[3] Daw'r mwyafrif Han yn bennaf o ddinasoedd Guangzhou a Taishan yn y dalaith gyfagos, Guangdong.[4]
Meddianwyd Hong Cong a'i rheoli fel trefedigaeth gan yr Ymerodraeth Brydeinig wedi'r Rhyfel Opiwm Cyntaf (1839–42). Yn wreiddiol Ynys Hong Cong yn unig oedd dan reolaeth Prydeiain, ond ehangodd ffiniau'r drefedigaeth i gynnwys Gorynys Kowloon ym 1860 a'r Tiriogaethau Newydd ym 1898. Cafodd ei feddiannu gan Japan yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac wedi'r rhyfel atfeddiannodd Brydain Hong Cong hyd drosglwyddo sofraniaeth i Tsieina ym 1997.[5][6] Yn ystod ei chyfnod trefedigaethol mabwysiadodd llywodraeth Hong Cong bolisi o ymatal rhag ymyrryd yn yr economi dan yr ethos o anymyrraeth bositif.[7] Cafodd y cyfnod hwn ddylanwad mawr ar ddiwylliant Hong Cong, a elwir yn aml yn "cwrdd rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin",[8] ac roedd y system addysg yn arfer dilyn system Lloegr[9] nes iddi gael ei diwygio yn 2009.[10] Dan yr egwyddor "un wlad, dwy system", mae gan Hong Cong system wleidyddol wahanol i dir mawr Tsieina.[11] Gweithreda barnwriaeth annibynnol Hong Cong dan fframwaith y gyfraith gyffredin.[12][13] Llywodraethir y system wleidyddol gan Gyfraith Sylfaenol Hong Cong, dogfen gyfansoddiadol sy'n mynnu i Hong Cong gael "gradd uchel o hunanlywodraeth" mewn pob mater ac eithrio cysylltiadau tramor ac amddiffyniad milwrol.[14][15] Er bod ei system amlbleidiol yn tyfu, mae etholyddiaeth fechan yn rheoli hanner y Cyngor Deddfwriaethol. Hynny yw, dewisir Prif Weithredwr Hong Cong, sef pennaeth y llywodraeth, gan Bwyllgor Etholiadol o 400 i 1,200 o aelodau, a bydd y system hon yn gweithredu am y 20 mlynedd gyntaf dan sofraniaeth Tsieina.[16][17][18][19] Mae Hong Cong yn un o brif ganolfannau ariannol y byd, a chanddi economi gwasanaethau cyfalafol gyda threthi isel a masnach rydd. Yr arian cyfred, sef doler Hong Cong, yw'r wythfed arian cyfred a fasnachir mwyaf yn y byd.[20]
The Government of the People's Republic of China declares that to recover the Hong The Government of the People's Republic of China declares that to recover the Hong Kong area (including Hong Kong Island, Kowloon and the New Territories, hereinafter referred to as Hong Kong) is the common aspiration of the entire Chinese people, and that it has decided to resume the exercise of sovereignty over Hong Kong with effect from 1 Gorffennaf 1997.