House of Cards | |
---|---|
![]() | |
Genre | Drama wleidyddol |
Crëwyd gan | Beau Willimon Seiliwyd ar: House of Cards gan Michael Dobbs Seiliwyd ar: House of Cards gan Andrew Davies |
Serennu | Kevin Spacey Robin Wright Kate Mara Corey Stoll Michael Kelly Sakina Jaffrey Kristien Connolly Sebastian Arcelus Michel Gill Nathan Darrow Rachel Brosnahan Constance Zimmer Mahershala Ali Elizabeth Norment Sandrine Holt Jayne Atkinson Molly Parker Gerald McRaney Jimmi Simpson Elizabeth Marvel Derek Cecil Mozhan Marno Paul Sparks Neve Campbell Joel Kinnaman |
Cyfansoddwr y thema | Jeff Beal |
Gwlad/gwladwriaeth | Yr Unol Daleithiau |
Iaith/ieithoedd | Saesneg |
Nifer cyfresi | 5 |
Nifer penodau | 65 |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 43-59 munud |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | Netflix |
Rhediad cyntaf yn | 1 Chwefror, 2013 - presennol |
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol |
Mae House of Cards yn gyfres we-deledu wleidyddol Americanaidd a ddatblygwyd a chynhyrchir gan Beau Willimon. Mae'n addasiad o'r mini-gyfres BBC a seiliwyd ar y nofel gan Michael Dobbs. Ymddangoswyd y gyfres gyntaf gyfan, sy'n cynnwys 13 pennod, am y tro cyntaf ar y gwasanaeth ffrydio Netflix ar 1 Chwefror, 2013. Ymddangoswyd ail gyfres o 13 pennod am y tro cyntaf ar 14 Chwefror, 2014, ac ymddangoswyd y drydedd gyfres am y tro cyntaf ar 27 Chwefror, 2015. Adnewyddyd House of Cards ar gyfer pedwaredd gyfres, a fe'i hymddangoswyd am y tro cyntaf ar 4 Mawrth, 2016. Ym mis Ionawr 2016, cyhoeddodd Neflix bod y gyfres wedi cael ei hadnewyddu ar gyfer pumed cyfres a ryddhawyd yn 2017. Cyhoeddwyd y byddai Willimon yn gadael ei swydd fel rhedwraig ar y rhaglen ar ddiwedd y bedwaredd gyfres.[1]
Ar 30 Hydref 2017, cyhoeddodd Netflix mai'r gyfres derfynol y byddai'r chweched cyfres, yn dilyn honiadau o gamymddwyn rhywiol yn erbyn Spacey. Ar 3 Tachwedd 2017, cyhoeddodd Netflix bod Spacey wedi cael ei ddiswyddo o'r rhaglen. Ar 4 Rhagyfr 2017, cyhoeddodd Netflix y cynhyrchir chweched cyfres gydag wyth pennod yn gynnar yn 2018 heb Spacey. Rhyddheir y gyfres derfynol yn nes ymlaen yn 2018.