Howard Hughes | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Howard Robard Hughes Jr. ![]() 24 Rhagfyr 1905 ![]() Houston ![]() |
Bu farw | 5 Ebrill 1976 ![]() Houston ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm, hedfanwr, military flight engineer, entrepreneur, dyfeisiwr, cynhyrchydd ![]() |
Tad | Howard R. Hughes, Sr. ![]() |
Mam | Allene Stone Gano ![]() |
Priod | Ella Botts Rice, Jean Peters ![]() |
Partner | Terry Moore, Katharine Hepburn ![]() |
Gwobr/au | Medal Aur y Gyngres, Gwobr 'Hall of Fame' am Hedfan ![]() |
Gwefan | http://www.hhmi.org/ ![]() |
llofnod | |
![]() |
Gŵr busnes ac entrepreneur o dras Gymreig o Unol Daleithiau America oedd Howard Robard Hughes, Jr. (24 Rhagfyr 1905 – 5 Ebrill 1976). Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn awyrenau, buddsoddi, peirianneg a chreu ffilmiau. Daeth i amlygrwydd bydeang yn y 1920au yn y 1920au drwy greu ffilmiau yn Hollywood - rhai drudfawr ac yn aml - dadleuol ee The Racket (1928), Hell's Angels (1930), Scarface (1932), a The Outlaw (1943). Yn ystod ei oes, roedd yn un o bobl gyfoethoca'r byd, gan wneud ei arian ei hun yn hytrach na thrwy etieddu arian.
Ymhlith ei gariadon roedd: Billie Dove, Bette Davis, Ava Gardner, Olivia de Havilland, Katharine Hepburn, Ginger Rogers a Gene Tierney; gofynnodd i Joan Fontaine ei briodi sawl tro, heb fawr o lwc.
Yn dilyn hyn, ffurfiodd The Hughes Aircraft Company a huriodd lawer o beiriannwyr a chynllunwyr. Treuliodd weddill y 1930au yn sefydlu sawl record hedfan, cynhyrchodd yr Hughes H-1 Racer a'r H-4 "Hercules" (a adnabyddir ar lafar fel y "Spruce Goose") a phrynodd ac ehangodd y Trans World Airlines (TWA), a werthwyd yn ddiweddarach i gwmni American Airlines[1]. Prynodd hefyd Air West a'i ailenwi'n Hughes Airwest; gwerthodd y cwmni hwn yn ei dro i Republic Airlines (1979–1986).
Rhestrwyd Hughes yn rhestr y Flying Magazine o 50 'Arwr y Byd Hedfan', gan ddod yn 25fed.[2] Fe'i cofir yn benaf am ei arian anhygoel, ei ymddygiad ecsentrig, gwahanol ac am dreulio'i flynyddoedd olaf fel meudwy. Etifeddwyd ei waddol ariannol gan elusen a sefydlodd i ymchwilio i ddatblygiadau meddygol: Howard Hughes Medical Institute.