![]() | |
Math | tref, plwyf sifil, tref farchnad ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Riding Dwyreiniol Swydd Efrog |
Poblogaeth | 4,142, 4,573 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dwyrain Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.7441°N 0.8634°W ![]() |
Cod SYG | E04000417 ![]() |
Cod OS | SE749281 ![]() |
Cod post | DN14 ![]() |
![]() | |
Tref a phlwyf sifil yn Nwyrain Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, ydy Howden.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Riding Dwyreiniol Swydd Efrog.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 4,142.[2]
Rhoddodd Wiliam I, brenin Lloegr y dref i Esgobion Durham yn 1080.[3] Enwyd y cantref 'Howdenshire' ar ôl y dref, a pharhaodd yn rhan o Swydd Durham hyd at 1846. Defnyddiwyd ffiniau gwreiddiol y cantref ar gyfer dwy ward lywodraethol gyfredol Howden a Howdenshire, a oedd â phoblogaeth gyfun o 19,753 yng nghyfrifiad 2011.[4][5]
Mae Howden wedi'i leoli ym Mro Efrog, ar yr A614, er bod traffordd yn amgylchynu'r dref ei hun. Saif yn agos at draffyrdd yr M62 a'r M18, gerllaw i Goole sydd yr ochr arall i Afon Ouse. Gwasanaethir y dref gan orsaf reilffordd Howden, sydd yng Ngogledd Howden a'n gwasanaethu trefi fel Leeds, Selby, Efrog, Hull a Llundain.