Hugh Rowlands | |
---|---|
![]() Y Cadfridog Syr Hugh Rowlands VC, KCB | |
Ganwyd | 6 Mai 1828 ![]() Llanrug ![]() |
Bu farw | 1 Awst 1909 ![]() Llanrug ![]() |
Dinasyddiaeth | Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | person milwrol ![]() |
Swydd | Lieutenant of the Tower of London ![]() |
Plant | Hugh Barrow Rowlands ![]() |
Gwobr/au | Croes Fictoria, Marchog Cadlywydd Urdd y Baddon ![]() |
Roedd y Cadfridog Syr Hugh Rowlands VC, KCB (6 Mai 1828 - 1 Awst 1909) yn fonheddwr o Gymru ac yn filwr a oedd ymysg y Cymry cyntaf i dderbyn medal Croes Fictoria, y wobr uchaf a mwyaf mawreddog am ddewrder yn wyneb y gelyn y gellir ei dyfarnu i aelodau o luoedd Prydain a'r Gymanwlad.
Mae rhai ffynonellau'n honni mai Syr Hugh oedd y Cymro Cyntaf i dderbyn y VC[1] ond fel arfer mae'r clod yna'n cael ei roi i Robert Shields. Cyflawnwyd y weithred o ddewrder a arweiniodd at fedal Rowlands ym mis Tachwedd 1854 tra bu gweithred Sheilds ym mis Medi'r flwyddyn ganlynol. Rhif Medal Rowlands yw VC43[2], a rhif medal Shields yw VC104[3], ond cyflwynwyd medal Sheilds iddo ar 26 Mehefin 1857 tra bu'n rhaid i Rowlands ddisgwyl hyd 5 Awst 1857 i dderbyn ei fedal yntau.