Hugo Grotius | |
---|---|
Ganwyd | Hugo Grocio, Hugo Grotius eller Hugo de Groot 10 Ebrill 1583 Delft |
Bu farw | 28 Awst 1645 Rostock |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth yr Iseldiroedd |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, dramodydd, international law scholar, gwleidydd, diplomydd, hanesydd, athronydd, diwinydd, cyfreithiwr, academydd, llenor, athronydd y gyfraith, ysgolhaig cyfreithiol, cyfreithegwr |
Blodeuodd | 1631 |
Swydd | llysgennad, Pensionary |
Tad | Jan Cornets de Groot |
Mam | Aeltje Van Overschie |
Priod | Maria van Reigersberch |
Plant | Cornelis de Groot, Pieter de Groot |
llofnod | |
Cyfreithegwr, athronydd, diwinydd, diplomydd, apolegwr Cristnogol, dramodydd a bardd o'r Iseldiroedd oedd Hugo Grotius (/ˈɡroːʃəs/; 10 Ebrill 1583 – 28 Awst 1645). Roedd ei lyfr De Jure Belli ac Pacis (1625; "Deddf Heddwch a Rhyfel") yn hanfodol wrth ddatblygu "cyfreithiau gwledydd" ar sail deddf natur. Ynghŷd â'i ragflaenwyr Francisco de Vitoria ac Alberico Gentili, Grotius yw un o "dadau'r gyfraith ryngwladol".
Adnabyddir amlaf gan ffurf Ladin ei enw, ond fe'i elwir yn Iseldireg yn Huig de Groot (Ynganiad Iseldireg: [ˈɦœyɣ də ɣroːt]) neu Hugo de Groot (Ynganiad Iseldireg: [ˈɦyɣoː də ɣroːt]). Disgleiriodd ei feddwl yn gyntaf yn ei arddegau. Cafodd ei garcharu am ei ran yn nadleuon Calfinaidd y Weriniaeth Iseldiraidd, a dihangodd mewn cist o lyfrau. Ysgrifennodd y mwyafrif o'i weithiau tra'n alltud yn Ffrainc.
Nid Grotius oedd y cyntaf i lunio athrawiaeth y gymdeithas ryngwladol, ond ef oedd y meddyliwr boreuaf i ddiffinio cysyniad y system wladwriaethau, dan lywodraeth cyd-ddiogelwch a diplomyddiaeth yn hytrach na grym a rhyfela. Ysgrifennai'r ysgolhaig cysylltiadau rhyngwladol Hedley Bull: "Diriaethai syniad y gymdeithas ryngwladol, yr hwn a ddwyn ger bron gan Grotius, gan Heddwch Westffalia, a gellir ystyried Grotius yn dad deallusol y cytundeb hwn, sef y cytundeb heddwch cyffredinol cyntaf yn yr oes fodern."[1]
Yn ogystal â'i ddylanwad arloesol ar gyfraith ryngwladol, gwelir effaith ei ddiwinyddiaeth ar fudiadau diweddarach megis Methodistiaeth a Phentecostiaeth. Ystyrir hefyd yn "ddiwinydd economaidd" am iddo osod sylfaen i fasnach rydd.[2]