Y Stryd Fawr yn Hwlffordd | |
Math | tref farchnad, cymuned, tref sirol |
---|---|
Poblogaeth | 12,107 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Gerllaw | Afon Cleddy Wen |
Yn ffinio gyda | Aberdaugleddau, Penfro |
Cyfesurynnau | 51.8011°N 4.9694°W |
Cod SYG | W04000941 |
Cod OS | SM955155 |
Cod post | SA61, SA62 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Henry Tufnell (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Tref farchnad a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Hwlffordd[1][2] (Saesneg: Haverfordwest). Lleolir pencadlys Sir Benfro yn y dref. Mae gan ardal adeiledig Hwlffordd y boblogaeth fwyaf yn y sir, gyda phoblogaeth o 15,388 (amcan) yn 2020.[3] Mae maestrefi'r dref yn cynnwys Prendergast, Albert Town ac ardaloedd preswyl a diwydiannol Withybush.
Daw'r enw "Hwlffordd", mae'n debyg, o'r enw Saesneg Haverfordwest.[4] Ystyr Haverford, neu Harford ar lafar gwlad, yw 'rhyd y bychod gafr'. Ychwanegwyd yr elfen -west tua'r 15g er mwyn osgoi dryswch gyda Henffordd.[4]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[5] ac yn Senedd y DU gan Henry Tufnell (Llafur).[6]