Hywel Bennett | |
---|---|
Ganwyd | 8 Ebrill 1944 Garnant |
Bu farw | 25 Gorffennaf 2017 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor teledu |
Priod | Cathy McGowan |
Actor ffilm-a-theledu o Gymru oedd Hywel Thomas Bennett[1] (8 Ebrill 1944 – 25 Gorffennaf 2017). Roedd Bennett yn enwog am ei ran yn chwarae James Shelley yn y comediau sefyllfa Shelley (1979–84) a'i ddilyniant The Return of Shelley (1988–92).
Ar ôl dod yn adnabyddus am ei ran y ffilm gomedi The Virgin Soldiers (1969), ymddangosodd Bennett mewn ffilmiau fel Loot (1970) a Percy (1971). Yn 2003, fe chwaraeodd y gangster Jack Dalton ar EastEnders.