Hywel Dda | |
---|---|
Ganwyd | 880 |
Bu farw | 950 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Swydd | brenin |
Tad | Cadell ap Rhodri |
Priod | Elen ferch Llywarch |
Plant | Owain ap Hywel, Rhodri ap Hywel, Edwin ap Hywel, Anhysbys, Angharad ferch Hywel, Einion ap Hywel Dda ap Cadell ap Rhodri Mawr |
Llinach | Llinach Dinefwr |
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
Llyfrgell Genedlaethol Cymru | |
Oes y Tywysogion | |
HWB | |
Tystiolaeth:Oes y Tywysogion | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Brenin teyrnas y Deheubarth yn ne-orllewin Cymru oedd Hywel 'Dda' ap Cadell (tua 880–950).[1] Roedd yn ŵyr i Rhodri Fawr, drwy ei dad, Cadell. Ef fu'n gyfrifol am uno Ceredigion, Ystrad Tywi a Dyfed i greu teyrnas newydd y Deheubarth. Erbyn ei farwolaeth yn 950 roedd yn rheoli Gwynedd a'r rhan fwyaf o Gymru, gyda’i deyrnas yn ymestyn o Brestatyn i Benfro.[2][3]
Fel ei dad-cu, Rhodri Mawr, llwyddodd i greu ymwybyddiaeth o genedligrwydd yng Nghymru, a’i gyfraniad nodedig at hynny oedd creu cyfraith unffurf gyntaf y wlad, a adnabuwyd fel Cyfraith Hywel Dda. Fel disgynnydd i Rhodri Mawr, roedd Hywel yn aelod o linach frenhinol Dinefwr. Cofnodwyd ef fel Brenin y Brythoniaid yn yr Annales Cambriae ac Annals of Ulster. Mae’n cael ei ystyried ymhlith rheolwyr mwyaf nodedig Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol.[3]
Roedd ei waith yn trefnu cyfreithiau traddodiadol Cymru yn gyfraniad neilltuol i helpu i greu a diffinio elfen o hunaniaeth Cymru yn yr Oesoedd Canol. Enwyd y cyfreithiau yn Gyfraith Hywel Dda ac roedd y cyfeiriad at yr ansoddair ‘da’ yn ei enw yn adlewyrchu’r ffaith bod y cyfreithiau yn cael eu hystyried yn rhai cyfiawn a theg. Roedd yr hanesydd Dafydd Jenkins yn eu gweld fel cyfreithiau trugarog yn hytrach nag fel cosbau, gyda phwyslais ar synnwyr cyffredin wrth weinyddu’r gyfraith a chydnabyddiaeth o hawliau merched yng nghyd-destun y gyfraith. Roedd Hywel Dda yn ddyn dysgedig, hyd yn oed yn ôl safonau modern, yn gyfarwydd iawn â’r Gymraeg, Lladin a Saesneg.[4]
Mae adeilad swyddfeydd a chartref gwreiddiol y Senedd wedi cael ei enwi’n ‘Tŷ Hywel’ er anrhydedd i Hywel Dda ac mae siambr wreiddiol y Cynulliad bellach yn cael ei adnabod fel Siambr Hywel. Mae bwrdd iechyd de-orllewin Cymru wedi cael ei enwi ar ei ôl hefyd.
Bu farw Elen, gwraig Hywel, yn 943, a ganwyd pedwar o blant iddynt, sef Owain, Rhodri, Edwin ac Angharad.[1][5]