Hywel Cilan | |
---|---|
Ganwyd | 15 g |
Galwedigaeth | bardd |
Roedd Hywel Cilan (fl. 1435 - 1470) yn fardd a ganai yn y dull traddodiadol ym Mhowys yn ail hanner y 15g; ar sail tystiolaeth fewnol ei gerddi, credir ei fod yn frodor o Landrillo ym Meirionnydd.[1]
Cedwir 27 o gerddi ganddo, y rhan fwyaf ohonynt yn gywyddau moliant i noddwyr ym Mhowys, yn cynnwys aelodau o deuluoedd Llwydiarth, Crogen, Maesmor, y Rug, Peniarth, y Rhiwlas, Corsygedol, Deuddwr a Moelyrch.[2]