Mae angen dyfyniadau a/neu gyfeiriadau ychwanegol ar ran o'r erthygl hon. Helpwch wella'r erthygl gan ychwanegu ffynonellau dibynadwy. Caiff barn heb ffynonellau ei herio a'i dileu. |
Rhybudd! ![]() |
Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon. Beth am fynd ati i'w chywiro? Dyma restr o erthyglau i'w cywiro: Tudalennau â phroblemau ieithyddol. |
Mae iaith testun (neu iaith SMS) wedi datblygu oherwydd yr angen i anfon negeseuon testun byrion trwy ffônau symudol. Datblygodd yn y rhan fwyaf o ieithoedd mewn ymateb i anhawster wrth ysgrifennu negeseuon gyda bysellbad ffôn, trwy'r angen i greu negeseuon byrion i arbed amser, ac i greu iaith i'r ifanc neu anodd ei ddeall gan oedolion.
Mewn sawl iaith (fel Saesneg), roedd iaith testun wedi datblygu o ieithoedd artiffisial eraill fel IRC lle oedd byrfoddau fel BRB = Be Right Back (Cymraeg: YOF = Yn Ôl Yn Fuan) ac emoticons (e.e. :-)) wedi dechrau ymddangos, ond roedd iaith testun yn ddatblygiad rhyngwladol trwy'r pwysau i greu negeseuon byrion.
Ers hynny, mae'r pwysau yn lleihau: mae geiriadur awtomatig a bysellfwrdd ffonau clyfar yn galluogi creu negeseuon yn fwy cyflym ac mae'r rhan fwyaf o gytundebau ffonau symudol bellach yn cynnwys llawer o negeseuon testun am ddim. Er hyn, mae iaith testun yn boblogaidd ac yn cael ei ddefnyddio mewn ffurfiau arall fel ebyst, hysbysebion a thrwy fod pobl yn siarad y byrfodd mewn iaith go iawn, weithiau fel gair sengl ac weithiau fel llythrenau unigol e.e. O.F.N. (O fy Nuw), er gwaethaf ffaith ei bod yn aml yn haws dweud y geiriau llawn.