Ian Holm | |
---|---|
Ganwyd | Ian Holm Cuthbert 12 Medi 1931 Goodmayes |
Bu farw | 19 Mehefin 2020 o clefyd Parkinson Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor ffilm, actor llwyfan, actor teledu, actor, video game actor, actor llais |
Adnabyddus am | The Lord of the Rings trilogy, Chariots of Fire, Alien |
Arddull | comedi Shakespearaidd |
Taldra | 1.66 metr |
Priod | Penelope Wilton |
Plant | Barnaby Holm |
Gwobr/au | Gwobr Laurence Olivier, CBE, Gwobr Annie, Gwobr Tony am yr Actor Gorau mewn Drama, Marchog Faglor |
Roedd Sir Ian Holm, CBE (12 Medi 1931 – 19 Mehefin 2020) yn actor Seisnig.[1][2] Ymddangosodd yn ffilm Kenneth Branagh o Henry V fel y milwr o Gymru, Fluellen. Enillodd Wobr BAFTA am Actor Cefnogol Gorau am ei rôl yn y ffilm Chariots of Fire.
Roedd ei rannau adnabyddus mewn ffilmiau yn cynnwys Ash yn Alien, y Tad Vito Cornelius yn The Fifth Element, Chef Skinner yn Ratatouille, a Bilbo Baggins yn The Lord of the Rings a chyfres ffilm The Hobbit.
Cafodd ei eni, fel Ian Holm Cuthbert, yn Goodmayes, Essex, yn fab i James Harvey Cuthbert a'i wraig Jean Wilson (née Holm). Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Chigwell ac yn RADA.