Ichthyosaur

Ichthyosoriaid
Amrediad amseryddol: Triasig CynnarCratasaidd Hwyr
250–90 Ma
Amrywiaeth rhywogaethau o ichthyosoriaid
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Urdd: †Ichthyosauria

Ymlusgiad enfawr a fu unwaith i'w cael yn y moroedd yw ichthyosor (Groeg am ‘pysgfadfall, pysgymlusgiad’ - ichthys (ιχθυς) ‘pysgodyn’ a sauros (σαυρος) ‘madfall’); mae felly'n perthyn i gyfnod o ddau gan miliwn o flynyddoedd yn ôl (200,000,000). Roedd yr ichthyosor yn un o brif ysglyfaethwr y môr ac edrychai fel dolffin gyda dannedd miniog, gan ei fod yn gigysydd. Gallai'r oedolyn fesur dros 15m o hyd, a'u prif fwyd oedd amonitau a belemnitau.

Cafwyd hyd i ffosiliau o'r ichthyosor yn 2008 ar draeth Penarth, ger Caerdydd; roedd y ffosil hwn yn 7tr (2.1 metr).[1][2]

Mae'r ichthyosoriaid yn perthyn i'r urdd a elwir yn Ichthyosauria neu Ichthyopterygia '‘pibellau pysgod’ (dynodiad a gyflwynwyd gan y paleontolegwr Cymreig Richard Owen yn 1840, er bod y term bellach yn cael ei ddefnyddio yn fwy ar gyfer rhiant-gytras yr Ichthyosauria.

Bu'r ichthyosoriaid yn byw yn ystod llawer o'r cyfnod Mesosöig; gwyddom hyn o dystiolaeth gyfoethog o ffosiliau. Ymddangosodd yn gyntaf oddeutu 250 miliwn o flynyddoedd yn ôl a goroesodd o leiaf un rhywogaeth tan oddeutu 90 miliwn o flynyddoedd yn ôl - i'r Cretasaidd Hwyr.

Ichthyosor (chwith) yn ymaflyd gyda plesiosor (dde).
  1. amgueddfa.cymru; Gwefan Amgueddfa Cymru.
  2. MAil Online; adalwyd 23 Ebrill 2018.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne