Cymeriad o fytholeg Gristnogol a llên gwerin Ewropeaidd yr Oesoedd Canol yw'r Iddew Crwydrad.[1][2] Mae'n Iddew a gafodd ei felltithio i grwydro'r byd hyd yr Ail Ddyfodiad, yn gosb am wawdio Iesu ar ei ffordd i'r groes. Yn ôl y stori draddodiadol, roedd yr Iddew yn grydd o'r enw Ahasferus[3] a siasiodd Iesu i ffwrdd o'i ddrws.[4]
Mewn fersiwn hŷn o'r chwedl a geir yn y Chronicle of St Alban's Abbey (1228), Cartaphilus porthor llys Pontiws Peilat oedd yr Iddew a fwrodd Iesu wrth iddo fynd heibio. Yn yr Almaen fe'i elwir yn John Buttadaeus, a welwyd yn crwydro Antwerp yn y 13g, y 15g, a'r 16g, ac yn Salt Lake City ym 1868. Yn ôl y chwedl Ffrengig, Isaac Laquedom neu Lakedion yw ei enw.[4]
Aeddfedodd chwedl yr Iddew Crwydrad yng nghyfnod o alltudiaeth i'r Iddewon yn Ewrop, er enghraifft gwaharddiad y Seffardïaid o Benrhyn Iberia ar ddiwedd y 15g. Mewn fersiynau diweddarach o'r stori, datblygodd yr Iddew yn gymeriad mwy trasig ac yn rhagredegydd trychineb.[5] Daeth y cymeriad mytholegol hwn yn symbol o anfarwoldeb ac ymfudo parhaol cenedl yr Iddewon.[6] Gellir ei ystyried hefyd yn amlygiad o wrth-Semitiaeth ymysg y Gristionogaeth a oedd yn beio'r Iddewon am groeshoeliad yr Iesu.
Mae'r motiff o fod dynol a anfarwolir, ond yn dyheu am farwolaeth, yn gyffredin i nifer o chwedlau Germanaidd a Llychlynaidd.[7] Er enghraifft myth y Brenin Herla a'i griw o helwyr, neu'r duw Wotan sydd yn crwydro'r ddaear hyd dragwyddoldeb.