Idris Elba | |
---|---|
Ganwyd | Idrissa Akuna Elba 6 Medi 1972 Hackney |
Man preswyl | Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Sierra Leone |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, cynhyrchydd ffilm, troellwr disgiau, actor ffilm, cynhyrchydd recordiau, cyfansoddwr, actor llwyfan, actor teledu, cynhyrchydd teledu, cyfarwyddwr ffilm, canwr, rapiwr, cyfansoddwr caneuon, actor llais, cerddor |
Adnabyddus am | Sonic the Hedgehog, Finding Dory, Zootopia, The Jungle Book, Thor, The Suicide Squad |
Taldra | 1.89 metr |
Priod | Sabrina Dhowre |
Gwobr/au | Ymddiriedolaeth y Tywysog, OBE |
Actor, cynhyrchydd, canwr, rapiwr a DJ o Loegr ydy Idrissa Akuna "Idris" Elba (ganed 6 Medi 1972)[1] Mae'n fwyaf adnabyddus am ei bortread o'r gwerthwr cyffuriau a gŵr busnes Russell "Stringer" Bell yng nghyfres deledu HBOThe Wire,[2] Ditectif John Luther yng nghyfres deledu BBC One Luther, a Nelson Mandela yn y ffilm fywgraffyddol Mandela: Long Walk to Freedom. Enwebwyd Elba deirgwaith am Wobr Golden Globe. Enillodd un am yr actor gorau, yn ogystal â chael ei enwebu am dair Gwobr Primetime Emmy.[3]
Mae Elba hefyd wedi ymddangos mewn ffilmiau megis American Gangster (2007), Daddy's Little Girls (2007), Takers (2010), Thor (2011), Prometheus (2012), Pacific Rim (2013) a Thor: The Dark World (2013).[4][5] Yn ogystal â'i waith actio, mae ef hefyd yn DJ o dan y ffugenw DJ Big Driis (neu Big Driis the Londoner) ac yn gerddor hip-hop yr enaid.[6]