Ieithoedd Nilo-Saharaidd

Map yn dangos dosbarthiad teuluoedd iaith Affricanaidd. Ieithoedd Nilo-Saharaidd mewn melyn.

Teulu ieithyddol o ieithoedd a siaredir yn bennaf yng nghanolbarth a gogledd-ddwyrain Affrica yw'r Ieithoedd Nilo-Saharaidd. Credir fod y teulu yn cynnwys tua 200 o ieithoedd, gyda chyfanswm o tua 35 miliwn o siaradwyr. Mae dosbarthiad y teulu yn ymestyn o Algeria a Mali yn y gogledd-orllewin hyd Benin, Nigeria, Swdan a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn y de ac o'r Aifft hyd Cenia a Tansanïa (af eithrio Somalia) yn y dwyrain.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne