Enghraifft o: | teulu ieithyddol ![]() |
---|---|
Math | human language ![]() |
Yn cynnwys | Common Turkic, Oghuric ![]() |
Nifer y siaradwyr | |
![]() |
Teulu ieithyddol sydd yn cynnwys o leiaf 35[1] o ieithoedd yw'r ieithoedd Tyrcaidd neu'r ieithoedd Tyrcig a siaredir gan y bobloedd Dyrcig ar draws Ewrasia, yn Nwyrain Ewrop, y Cawcasws, Canolbarth Asia, Gorllewin Asia, Gogledd Asia (yn enwedig Siberia), a Dwyrain Asia. Tarddodd yr ieithoedd Tyrcaidd, ar ffurf y broto-Dyrceg, yng ngorllewin Tsieina a Mongolia,[2] a lledaenodd i'r gorllewin, ar draws rhanbarth Tyrcestan a thu hwnt, yn sgil ymfudiadau'r bobloedd Dyrcig yn ystod y mileniwm cyntaf OC.[3] Siaredir iaith Dyrcaidd yn frodorol gan ryw 170 miliwn o bobl, a chan gynnwys siaradwyr ail iaith mae mwy na 200 miliwn o bobl yn medru ieithoedd o'r teulu hwn.[4][5] Tyrceg ydy'r iaith Dyrcaidd a chanddi'r nifer fwyaf o siaradwyr, ac mae ei siaradwyr brodorol yn Anatolia a'r Balcanau yn cyfri am ryw 40% o'r holl siaradwyr Tyrcaidd yn y byd.[3]
Mae sawl ffordd o ddosbarthu'r ieithoedd Tyrcaidd, a fel rheol fe'i rhennir yn ddau gangen – yr ieithoedd Oghur a'r ieithoedd Tyrcaidd Cyffredin – a chwech neu saith is-gangen. O'r ieithoedd byw, Tsafasieg yw unig aelod y gangen Oghur; mae'r gangen Dyrcaidd Cyffredin yn cynnwys pob iaith Dyrcaidd byw arall, gan gynnwys yr is-ganghennau Oghuz, Kipchak, Karluk, Arghu, a Siberaidd. Nodweddir yr ieithoedd Tyrcaidd gan gytgord llafariaid, cyflyniad, a diffyg cenedl enwau.[3] Rhennir cyd-ddealltwriaeth i raddau helaeth gan ieithoedd yr is-gangen Oghuz, gan gynnwys Tyrceg, Aserbaijaneg, Tyrcmeneg, Qashqai, Gagauz, a Gagauz y Balcanau, a hefyd Tatareg y Crimea, iaith Kipchak sydd wedi ei dylanwadu'n gryf gan dafodieithoedd Oghuz.[6] Rhennir cyd-eglurder i raddau gan ieithoedd yr is-gangen Kipchak, yn enwedig y Gasacheg a'r Girgiseg. Gellir gwahaniaethu rhyngddynt yn seinegol tra bo'r eirfa a'r ramadeg yn hynod o debyg. Hyd at yr 20g, ysgrifennwyd y Gasacheg a'r Girgiseg drwy gyfrwng y ffurf lenyddol ar Tsagadai.[7] Gellir dadlau bod elfen gref o gontiniwum tafodieithol yn perthyn ar draws y gwahanol ieithoedd Tyrcaidd.
Dengys yr ieithoedd Tyrcaidd gryn dipyn o debygrwydd i'r ieithoedd Mongolaidd, Twngwsaidd, Coreaidd, a Japonaidd. O'r herwydd, awgrymodd ambell ieithydd eu bod i gyd yn perthyn i'r teulu ieithyddol Altäig, ond bellach gwrthodir y dosbarthiad hwnnw gan ieithyddion hanesyddol, yn enwedig yn y Gorllewin.[8][9] Am gyfnod, tybiwyd i'r ieithoedd Wralaidd berthyn i'r rheiny hefyd yn ôl y ddamcaniaeth Wral-Altäig.[10][11][12] Fodd bynnag, nid oes digon o dystiolaeth i gytuno ar fodolaeth y naill macro-deulu ieithyddol na'r llall, a phriodolir cyd-nodweddion yr ieithoedd hynny i gyswllt iaith cynhanesyddol.