Ike Turner | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Eki Renrut, Icky Renrut ![]() |
Ganwyd | Izear Luster Turner Jr. ![]() 5 Tachwedd 1931 ![]() Clarksdale ![]() |
Bu farw | 12 Rhagfyr 2007 ![]() o gorddos o gyffuriau ![]() San Marcos ![]() |
Label recordio | Chess Records, Flair Records ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Galwedigaeth | gitarydd, pianydd, actor, canwr-gyfansoddwr, arweinydd band, arweinydd, canwr, cynhyrchydd recordiau, chwaraewr sacsoffon, artist recordio ![]() |
Arddull | rhythm a blŵs, y felan, ffwnc ![]() |
Math o lais | bas-bariton ![]() |
Tad | Rev. Izear Luster Sr. Turner ![]() |
Mam | Beatrice Cushenberry ![]() |
Priod | Unknown, Unknown, Unknown, Tina Turner, Unknown, Jeanette Bazzell Turner, Audrey Madison Turner, Unknown, Unknown, Unknown ![]() |
Plant | Ike Turner, Jr., Michael Turner, Ronnie Turner ![]() |
Perthnasau | Jackie Brenston, Raymond Craig Turner, Afida Turner, Alline Bullock ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Grammy am y Perfformiad R&B Gorau gan Ddeuawd neu Grwp Lleisiol, Grammy Award for Best Traditional Blues Album, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy ![]() |
Cerddor R&B, pianydd a chynhyrchydd recordiau oedd Ikear Luster "Ike" Turner[1] (5 Tachwedd 1931 – 12 Rhagfyr 2007).[2] Fe'i ganwyd yn Clarksdale, Mississippi.
Yn 1951 fe ysgrifennodd Ike y gân "Rocket 88", sy'n cael ei ystyried fel y gân roc a rôl gyntaf. Fe recordiodd e'r gân gyda'i fand "Kings of Rhythm" ond fe gafodd y record ei rhyddhau dan yr enw "Jackie Brenston and the Delta Cats". Jackie Brenston oedd yn chwarae'r sacsoffon yn y band. Fe recordiodd Bill Haley "Rocket 88" hefyd yn 1951.
Yn y 1960 fe briododd Tina Turner ond fe wnaethyn nhw ysgaru yn 1978. Roedd Ike a Tina Turner yn arfer canu deuawdau. Y fwyaf adnabyddus oedd River Deep - Mountain High (1966) a'u fersiwn o I Want to Take You Higher (1970), cân gan Sly and the Family Stone (1969) yn wreiddiol.