Roedd y Situationist International (SI) (Ffrangeg: internationale situationniste) yn fudiad rhyngwladol o radicalwyr, yn cynnwys athronwyr, artistiaid avant-garde, ysgrifennwyr ac academyddion.
Roedd yn amlwg yn Ewrop o'i ffurfio yn 1957 hyd i’r mudiad dod ei hun i ben yn 1972.
Prif nod yr IS oedd creu ffurf newydd o gelfyddyd a gwleidyddiaeth chwyldroadol i herio'r drefn gyfalafol. Eu prif weithgaredd oedd ysgrifennu erthyglau, pamffledau a llyfrau, ond maen nhw’n cael eu cofio’n bennaf am greu digwyddiadau situation i geisio herio natur pasif y cyhoedd.
Roedd athronwyr yr IS o'r farn bod y cyhoedd wedi’i gyflyru gan y Spectacle - sioe fawr ffals o brofiadau ail-law y cyfryngau torfol a hysbysebu. Yn ôl yr IS roedd y Spectacle yn gwneud i’r cyhoedd dderbyn y byd fel yr oedd ac i gael chwant am brynu’r eitem nesaf tuag at ddelfryd o foethusrwydd sy’n amhosib i’w cyrraedd.
Roedd yn IS yn grŵp cymharol fach, gydag aelodaeth byth yn fwy na thua 100 o bobl, serch hynny roedd yn hynod ddylanwadol. Mae dylanwad yr IS yn cael ei gysylltu’n aml gyda ddatblygiad mudiadau gwrth-ddiwylliant y 1960au a'r 1970au, yn arbennig protestiadau Paris, Mai 1968.
Yr aelod mwyaf adnabyddus o IS oedd un o’r arweinwyr Guy Debord. Dosbarthwyd ei syniadau trwy eu cyhoeddiad Internationale Situationniste, a thrwy ysgrifau a gweithgareddau ei aelodau. [1] [2]